Ysgol haf yn Glanyfferi/summer school

Gall pobl sy'n dysgu Cymraeg fanteisio ar ysgol haf a gaiff ei chynnal yng Nglanyfferi cyn dechrau'r tymor newydd.
Mae'r cwrs, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn para o 9.30am hyd 4.00pm bob dydd o 30 Awst i 2 Medi.
Mae'n gyfle i ddysgwyr adolygu cyn bod y cyrsiau cymunedol rheolaidd yn cychwyn yn yr wythnos sy'n dechrau 19 Medi. Hefyd, mae'r cwrs yn fan cychwyn da ar gyfer dysgwyr newydd.
Bydd chwe grŵp ar wahanol lefelau. Mae Grŵp 1 yn targedu dechreuwyr llwyr sydd heb fod ar gwrs o'r blaen. Mae'n gwrs delfrydol i unrhyw un sydd ag angen cymorth ychwanegol ac yn ddechreuad da, yn barod at ddiwedd Medi.
Mae Grwpiau 2 a 3 yn rhai lefel Mynediad. Mae Grwpiau 4 a 5 yn targedu'r lefel Sylfaen. Mae Grŵp 6 ar gyfer dysgwyr sydd wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i lefel TGAU ac sy'n gobeithio mynd ymlaen i lefel uwch yn yr hydref.
Darperir meithrinfa am ddim ar y cyd â Menter Cwm Gwendraeth. Rhaid trefnu lle i blant ymlaen llaw.
£52 yw cost y cwrs sy'n cynnwys cinio a lluniaeth.
I gael rhagor o fanylion a ffurflen neilltuo lle, cysylltwch â Siân Merlys drwy ffonio 01558 822729 neu e-bostio: smerlys@sirgar.gov.uk
Welsh summer school in Ferryside. For more info, email - smerlys@sirgar.gov.uk

Comments

Popular posts from this blog

Former Gower MP Gareth Wardell the guest speaker at Llanelli Rotary Club

Lauryn Davey is making her mark in athletics - but needs sponsors

'Class of 1980' from Burry Port enjoy reunion